22 Mawrth 2022

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS
 Y Prif Weinidog

Annwyl Mark

Cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, 23 Mawrth 2022

Diolch am eich llythyr dyddiedig 18 Mawrth yn rhoi gwybod inni y cynhelir cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yfory, 23 Mawrth, ac y byddwch chi a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.

Yn eich llythyr dywedwyd bod yr agenda’n cynnwys eitemau am yr argyfwng yn Wcráin, deddfwriaeth y DU, a’r Papur Gwyn ar Godi’r Gwastad, ac y byddai’r Pwyllgor hefyd yn cynnal archwiliad o weithrediad yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol (IGR).

Buom yn trafod eich llythyr yn ein cyfarfod pwyllgor ddoe ac, o ystyried yr ohebiaeth ddiweddar yr ydym wedi’i hystyried ynghylch amrywiol femoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau’r DU a chyfarfodydd rhynglywodraethol, roeddem am rannu â chi rai sylwadau y byddem yn eich gwahodd i fyfyrio arnynt wrth ichi baratoi i gymryd rhan yn y cyfarfod cyntaf hwn. Credwn fod y rhain yn faterion pwysig sy'n berthnasol i eitemau ar yr agenda sy'n ymwneud â deddfwriaeth y DU a gweithredu’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. 

1.          Mae’r datblygiad diweddar ynghylch y Bil Cymwysterau Proffesiynol a Llywodraeth y DU yn symud y Bil ymlaen drwy ei gamau olaf yn Nhŷ’r Cyffredin tra’n torri’r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol yn anffodus ac yn peri gofid. Rydym yn cydnabod bod achosion o'r fath yn brin. Fodd bynnag, o ystyried bod y datblygiadau hyn wedi digwydd ochr yn ochr â llywodraethau’r DU yn sicrhau perthynas waith newydd, rydym yn pryderu nad yw’r prosesau rhynglywodraethol newydd y cytunwyd arnynt wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol ac nad ydynt wedi arwain at ddatrys y meysydd sy’n peri pryder rhwng y llywodraethau.

2.         Mae’r datganiad diweddar a wnaed gan Weinidog yr Economi ar 10 Mawrth bod cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau’r DU a’r UE (IMG) wedi’i alw gyda dim ond dwy awr o rybudd yn peri pryder hefyd. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym ar 14 Mawrth ei fod yn gobeithio mai “trafferthion cychwynnol cynnar” oedd y rhain.  Gobeithiwn yn wir y bydd Llywodraeth y DU, a holl lywodraethau eraill y DU, pan fo’n briodol, yn ceisio sicrhau bod cyfarfodydd Grwpiau Rhyngseneddol yn y dyfodol yn cael eu galw gyda rhybudd rhesymol, a’u bod yn gweithredu yn unol â nodau canlyniad yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhyngseneddol.

3.         Rydym hefyd yn pryderu am fethiant ymddangosiadol gweithio rhynglywodraethol mewn perthynas â hynt y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), fel yr amlinellwyd yn llythyr Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip dyddiedig 16 Mawrth. Mae’n ymddangos bod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnwys eithriad o gymhwyso paragraff 11(1)(a) o Atodlen 7B i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gais Llywodraeth Cymru, a’i phenderfyniad dilynol i ddiwygio’r Bil i ddileu cymhwysiad y Bil i Gymru yn gyfan gwbl, yn cynrychioli methiant yn y cyfathrebu rhwng llywodraethau a methiant i ddatrys problem a ddylai, yn ein barn ni, fod yn gymharol syml i’w goresgyn.

Rydym felly’n pryderu nad yw’r prosesau rhynglywodraethol newydd yn cael effaith ar unwaith a, phe na bai achosion sylfaenol y problemau hyn yn cael sylw fel mater o frys, gallai’r cynnydd cychwynnol a wnaed o ran yr Adolygiadau o Gysylltiadau Rhynglywodraethol arafu’n ddiangen, gan leihau’r buddion y bwriadwyd i’r trefniadau newydd eu cyflwyno.

Edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y cyfarfod.  

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, y Llywydd; y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol; Pwyllgor Swyddfa Weithredol Cynulliad Gogledd Iwerddon, Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban, Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, a Phwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.

Yn gywir,

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd